Cymunedau Gofal Plant Cysylltiedig

Mae ein prosiectCymunedau Gofal Plant Cysylltiedig’, sydd wedi ei ariannu trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn galluogi Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant ar hyd a lled Cymru i gefnogi clybiau i ateb anghenion plant, teuluoedd a chymunedau ar hyd a lled Cymru.

Mae Clybiau Gofal Plant All-Ysgol yn aml yn ganolbwynt i gymunedau, gan gynnig gofal plant Saesneg, Cymraeg a dwyieithog i helpu teuluoedd i wella eu hamgylchiadau. Maent yn cael eu hysgogi i ddatblygu a gwella ac yn angerddol am ddarparu cyfleoedd i blant chwarae a bod gyda’i gilydd, gan sicrhau eu bod yn darparu gwasanaeth o safon wrth barhau i fod yn gynaliadwy. Mae clybiau’n galluogi rhieni/gofalwyr dros 45,000 o blant ledled Cymru i hyfforddi, gweithio a datblygu gyrfaoedd, gan wella amgylchiadau, trechu tlodi ac anghydraddoldebau a chefnogi’r canlyniadau gorau i blant. 

 mentora sgiliau busnes, gweminarau (Clybiau Hwb) yn cynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus a chymorth gyda chynlluniau gweithredu gwelliant, mae’r prosiect yn cyflawni ei nodau i sicrhau: 

  • Bod cymunedau yng Nghymru yn elwa ar wasanaethau o safon. 
  • Y bydd gan glybiau lywodraethiad cryfach a chadarn. 
  • Sector cynaliadwy yng Nghymru sy’n cefnogi plant i chwarae a theuluoedd a chymunedau i ffynnu. 

 

Mae Clybiau Plant Cymru KidsClubs wedi bod yn bartner amhrisiadwy yn ein helpu i sefydlu ein gwersyll gwyliau. Ni allem wneud y broses hon hebddynt” Aisha, Camp Fantastic.

“Mae ein taith o fod  yn Glwb ÔlYsgol llwyddiannus i fod yn Gwmni Budd Cymunedol yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau gofal plant o safon, â llywodraethiad cryf, ehangu strategol a ffocws ar anghenion cymunedol. Diolch i Glybiau Plant Cymru Kids Clubs am y gefnogaeth!”  Gofal Plant Celyn 

 

Ni allwn ddiolch digon i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am gefnogi cais parhad Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs i gynorthwyo’r sector Clybiau Gofal Plant All-Ysgol ledled Cymru.    

 


 

Mwy am ein Clybiau Hwb  

Mae Cybiau Hwb misol, rhad ac am ddim, yn weminarau rhyngweithiol, ar bynciau sy’n cael eu llywio gan y Clybiau eu hunain Weithiau ceir siaradwyr gwadd arbenigol, sy’n darparu cyfleoedd ar gyfer meddwl cydweithredol a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer cymuned ein Clwb Gofal Plant All-Ysgol.

 

 


 

Astudiaethau Achos 

Darllenwch isod yn ein hastudiaethau achos am y ffordd y mae’r Gymuned Ofal Plant All-Ysgol wedi ei chryfhau drwy’r Prosiect.  

  1. Cwtch Childcare
  2. Diddy Dragons
  3. Once Upon a Time Childcare Ltd
  4. Maes Bach Ltd
  5. Clwb Twm
  6. Hillside Holiday Club, Astudiaeth Achos Cofrestru Llwyddiannus gydag AGC
  7. Hendy Childcare
  8. Andi Pandi
  9. Camp Fantastic
  10. Clwb Y Ddraig Out of School Childcare Club
  11. Celyn Childcare: Out of School Childcare Expansion

 


 

Cysylltu a Chefnogi Clybiau a Chymunedau Gofal Plant All-Ysgol 2020-2023  

Drwy ein Prosiect cyntaf Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol 2020-2023 ‘Cysylltu a Chefnogi Clybiau a Chymunedau Gofal Plant All-Ysgol’, bu 3 Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant Rhanbarthol ledled Cymru yn gweithio gyda’n Cymuned Gofal Plant y Tu Allan i Oriau Ysgol i gyflawni’r canlynol:  

 

  • 98 o gynlluniau gweithredu unigol yn adeiladu ar gryfderau;     
  • 200 sesiynau sgiliau busnes a wellhaodd sgiliau llywodraethu a busnes;     
  • 45 o gofrestriadau gydag Arolygiaeth Gofal Cymru/Y Cynnig Gofal Plant/ Gofal Plant Di-dreth i wella ansawdd a fforddiadwyedd;    
  • 44 o ddigwyddiadau rhwydwaith a chydweithio ag eraill i gefnogi’r sector. 

 

Dywedodd Jane O’Toole, Prif Swyddog Gweithredol, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs: 

“Hoffem ddiolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am y dyfarniad grant ac wrth gwrs rhaid diolch i’r cyhoedd sy’n chwarae’r Loteri bob wythnos, hebddynt, ni fyddai’r cyllid hwn ac felly’r prosiect, wedi bod yn bosibl.

Trwy’r prosiect hwn rydym yn ceisio cefnogi Clybiau gydag ymweliadau wyneb yn wyneb a mentora sgiliau busnes; helpu i wella ansawdd chwarae a gofal o fewn Clybiau Gofal Plant y tu allan i oriau Ysgol trwy uwchsgilio Gweithwyr Chwarae a Rheolwyr; rhoi gwell mynediad i ofal a darpariaeth chwarae; cael Clybiau wedi’u cofrestru gyda mentrau’r Llywodraeth sy’n gwella fforddiadwyedd a gofal-plant mwy cynaliadwy, wedi’i lywodraethu’n dda ar y cyfan, a fydd yn parhau’r gofal plant.”