
30.05.2025 |
Diwrnod Rhyngwladol Chwarae Mehefin 11fed 2025
Yn Chlybiau Plant Cymru Kids’ Clubs rydym yn cefnogi’r Clybiau Gofal Plant All-Ysgol ledled Cymru i ddeall yr Egwyddorion Gwaith Chwarae, trwy ein cymwysterau Gwaith Chwarae wedi’u hariannu’n llawn a’n cyfleoedd hyfforddi. Rydym yn eiriol dros Chwarae ym mhopeth a wnawn a bydd ein timau yn cymryd drosodd ambell i faes chwarae ar 11 Mehefin 2025. Byddwn yn rhannu pytiau o’n chwarae ar gyfryngau cymdeithasol felly gwyliwch am y rhain, cadwch lygad allan a rhannwch ymhell ac agos.
Rhowch wybod beth rydych yn ei wneud yn eich Clwb chi, neu’ch Cymuned yr wythnos hon a phob wythnos, i groesawu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae. Rhannwch sut rydych chi’n cefnogi hawl pob plentyn i chwarae trwy –
“Ddewis chwarae bob dydd a rhoi help llaw i greu byd lle mae hawl pob plentyn i chwarae yn cael ei pharchu, ei diogelu a’i chyflawni” CCUHP
Cysylltwch â ni drwy
Ebost: Info@clybiauplantcymru.org
I wybod mwy Diwrnod Rhyngwladol Chwarae | UNICEF Parenting