Te i Tŷ Hafan

Mae staff Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn enwebu elusen sy’n agos at ein calonnau i’w chefnogi drwy godi arian a chodi ymwybyddiaeth.

Ein helusen enwebedig eleni yw Tŷ Hafan, ac rydym am barhau i godi arian drwy gymryd rhan yn Te i Tŷ Hafan.

Ar 10fed Mehefin, byddwn yn cynnal parti te Prynhawn yn ein swyddfeydd rhanbarthol ac yn gwisgo i fyny ar gyfer yr achlysur.

Pam na wnewch chi gynnal eich parti te eich hun? Gallech ddewis thema hwyliog fel Yr Hetiwr Hurt neu Bicnic Tedi Bêrs. Ystyriwch ffi mynediad, cystadleuaeth gwisg ffansi, cwisiau, rafflau, neu arwerthiant pobi i godi arian.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer eich pecyn parti te rhad ac am ddim, ewch i: <https://www.tyhafan.org/cy/events/tea-for-ty-hafan/>

Os hoffech gyfrannu neu noddi’r tîm ar gyfer ddigwyddiadau sydd i ddod, ewch draw i’n tudalen ‘just giving’ drwy’r ddolen hon…

https://bit.ly/Justgiving25